Math | ysgol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Hwlffordd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7924°N 4.9814°W |
Cod post | SA61 1SZ |
Mae Coleg Sir Benfro ac ar lafar, Coleg Penfro (Saesneg: Pembrokeshire College) yn darparu addysg alwedigaethol amser llawn a rhaglenni Safon Uwch ar gyfer myfyrwyr 14-19 oed ac amrywiaeth o gyrsiau rhan-amser ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion a chyflogwyr. Cyfanswm y myfyrwyr cofrestredig mewn addysg amser llawn a rhan-amser yw tua 14,500. Mae'r Coleg hefyd yn cynnig NVQs a rhaglenni achrededig eraill, yn ogystal â Chymhwyster Bagloriaeth Cymru. [1] Mae rhai cyrsiau yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae'n aelod o rwydwaith y sector, ColegauCymru.